Newyddion Media Trust Cymru

Mawrth 2008
Datganiad i'r Wasg

‘Astudiaeth Media Trust Cymru’n dangos archwaeth elusennau am gyngor yn y maes cyfryngau a chyfathrebu’

Mae astudiaeth newydd sy’n ymchwilio cyfleoedd i bobl ifanc o fewn y cyfryngau yng Nghymru wedi ei rhyddhau heddiw gan Media Trust Cymru. Mae'r astudiaeth wedi ei chyflwyno'n barod i Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC) sy'n gweithio mewn partneriaeth gyda nhw.

Canfu’r astudiaeth bod menter arfaethedig o ddatblygu a chynllunio cyfleoedd gwirfoddoli blaengar a heriol i bobl ifanc o’r Sector Gwirfoddol a Chymunedol o fewn cwmnïau cyfryngau, cyfathrebu a chreadigol i’w groesawu yng Nghymru. Dangosodd 96% o’r bobl ifanc a ymatebodd ddiddordeb brwd mewn cymryd rhan.

Dywedodd Laura Rich, gweithiwr gwirfoddolwr gyda phobl ifanc sy’n gweithio gyda Chymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Ceredigion: “Byddai cyfle fel hwn yn cadw elusennau’n gyfoes, yn dod ag elfen iau i mewn i wirfoddoli ac yn herio rhagfarnau gan gynnig profiad dwyffordd i wirfoddolwyr a gweithwyr yn y cyfryngau.”

Roedd ymatebwyr i’r holiaduron, grwpiau ffocws a chyfweliadau lled strwythuredig ar y ffôn yn gadarnhaol iawn ynglŷn â’r wybodaeth, sgiliau a phrofiad y gallai’r gwirfoddolwyr ifanc eu cael. Roeddent hefyd yn cydnabod y byddai dewis ac asesu’r bobl ifanc yn allweddol i lwyddiant y fenter. Mae’r sgiliau y bydd y gwirfoddolwyr ifanc yn eu datblygu’n debygol o gael effaith eang tymor hir o ran eu datblygiad personol a phroffesiynol gan arwain at wella’u siawns o gyflogaeth.

Budd pellach i bawb oedd y potensial ar gyfer cynyddu dealltwriaeth rhwng y sectorau a chodi ymwybyddiaeth o sut y mae’r ddau sector yn gweithredu, yn cynnwys materion penodol fel y rhai hynny y mae pobl ag anableddau’n eu hwynebu.

Yn ôl Ruth Parry, a gynhaliodd yr astudiaeth: “Bydd y seilwaith ar gyfer datblygu’r fenter hon yn allweddol i’w llwyddiant yn y dyfodol ac mae gan Media Trust Cymru brofiad blaenorol o fentrau eraill sydd wedi profi’n llwyddiannus.”

Nod Media Trust yw hybu ei gynrychiolaeth yng Nghymru er mwyn cyflwyno mwy o’i wasanaethau i elusennau Cymraeg a chreu cyfathrebu effeithiol yn y trydydd sector. Ychwanegodd Ruth Parry “Byddai’r fenter hon yn gyfle gwych i ddarparu rôl brocera cadarnhaol rhwng cwmnïau cyfryngau, cyfathrebu a chreadigol a phobl ifanc o fewn y Sector Gwirfoddol a Chymunedol yng Nghymru”.

‘Mae Media Trust yn ceisio cyllid ar gyfer prosiect sy’n dwyn elusennau a chyfryngau at ei gilydd yng Nghymru’

I lawr lwytho copi o’r adroddiad, ewch i: www.mediatrust.org/media-trust-cymru


Chwefror 2008
Media Trust Cymru a Golley Slater i gynnal ail ddigwyddiad gwib-baru

Yn dilyn llwyddiant y digwyddiad gwib-baru cyntaf a gynhaliwyd ym mis Hydref y llynedd mae Media Trust Cymru yn cynnal ail ddigwyddiad gwib-baru yng Nghaerdydd, yn nwylo Golley Slater PR.

Y ôl Matthew Appleby, Cyfarwyddwr Golley Slater yng Nghaerdydd, “Fel aelod corfforaethol o Media Trust Cymru, mae’n bleser gennym fod yn cynnal gwib-baru yn Pica Pica. Ein gobaith yw y bydd sawl elusen o Gymru’n gallu mynychu’r noson. Yn Golley Slater, rydym eisoes wedi gweld y buddiannau o weithio gyda Media Trust Cymru trwy ddod â chwmnïau cyfathrebu ac elusennau at ei gilydd.”


Dywedodd Helen Beckett, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyfathrebu “Rydym wrth ein bodd bod Golley Slater yn cynnal yr ail ddigwyddiad gwib-baru hwn yng Nghaerdydd. Cafwyd ymateb da iawn i’n digwyddiad gwib-baru cyntaf ac arweiniodd at sawl achos o baru llwyddiannus.


Os hoffech wybod mwy am ddigwyddiadau Gwib-baru yng Nghymru e-bostiwch y tîm Uno’r Cyfryngau am wybodaeth bellach.


Medi 2007

Media Trust Cymru a Precedent Communications Yn Lansio Digwyddiad Paru Cyflym Cyntaf Yng Nghymru

Mae Media Trust yn cynnal noson Paru Cyflym rhwng 6pm ac 8pm ar 10 Hydref 2007 yn Pica Pica yng Nghaerdydd; gyda Precedent Communications.

Mae Paru Cyflym yn ddull cyffrous ac effeithiol o ddwyn pobl broffesiynol o elusennau a chyfryngau at ei gilydd i wella cyfathrebiadau elusen. Yn debyg i ddetio cyflym, mae gan pob person proffesiynol yn y cyfryngau 5 munud gyda phob elusen, ac yna maent yn dewis pwy yr hoffent gynnig cefnogaeth barhaus iddynt. Mae ceisiadau yn amrywio o gymorth i ysgrifennu datganiad i’r wasg, arweiniad gyda chynllun cyfathrebiadau cyfan, cynnwys gwefan a chyngor ar flogiau.

Os ydych yn berson proffesiynol yn y byd cyfryngau neu gyfathrebiadau gyda dros ddwy flynedd o brofiad neu os ydych yn gweithio i elusen ac yn dymuno cael cyngor ynglyn â’ch cyfathrebiadau, hoffem i chi ymuno â ni yn y digwyddiad hwn yng Nghaerdydd.

Mae Precedent Communications yn ymgynghoriaeth gyda dros 18 mlynedd o brofiad. Maent yn arbenigo mewn cyflwyno cyfathrebiadau corfforaethol, ar-lein ac oddi ar-lein gan ddefnyddio cyfuniad o ymgynghoriaeth, dylunio a thechnoleg.


Cysylltwch â’r tîm Uno’r Cyfryngau os allwch helpu neu os ydych yn elusen ac eisiau mynychu. Rhowch hynny o fanylion ag sy’n bosib os gwelwch yn dda.


Gorffennaf 2007

Mae Media Trust Cymru yn cyhoeddi ei aelodau corfforaethol cyntaf wrth i Precedent Communications a Golley Slater addo eu cefnogaeth


Mae’r elusen cyfryngau, Media Trust, wedi cael ei aelodau corfforaethol cyntaf yng Nghymru. Bydd Precedent Communications a Golley Slater, fel aelodau corfforaethol sylfaen yn gweithio gyda Media Trust Cymru i hybu ei bresenoldeb yng Nghymru dros y misoedd nesaf. Mae Golley Slater a Precedent hefyd wedi cytuno i fod ar fwrdd ymgynghorol Media Trust Cymru.

Mae Media Trust eisoes wedi’i sefydlu wrth galon y gymuned cyfryngau yn y DU gyda’i Gadeirydd Andy Duncan, Prif Weithredwr Channel 4 a Dirprwy Gadeirydd Newyddion Channel 4,Jon Snow.

Mae Media Trust Cymru yn bwriadu agor ei Baru Cyfryngau ar-lein am ddim i elusennau a chyrff cymunedol yng Nghymru. Diben Paru Cyfryngau yw adnabod pobl broffesiynol yn y cyfryngau gyda’r sgiliau y gallant eu rhannu i ddiwallu anghenion cyfathrebiadau elusennau. Rhagwelir y bydd y gwasanaeth hwn yn cael ei lansio yn nes ymlaen eleni os ceir digon o gefnogaeth. Mae’r elusen hefyd yn galluogi elusennau Cymreig i ddefnyddio’r Community Channel ac i dderbyn hyfforddiant cyfryngau.

Dywedodd Helen Beckett, Pennaeth Cyfathrebiadau yn Media Trust, “Rydym wrth ein boddau bod Precedent Communications a Golley Slater yn ymuno â ni. Ar ôl cael cefnogaeth gan y ddau gwmni cyfathrebiadau sefydledig hyn rydym yn gobeithio y bydd rhagor o gwmnïau yn dod yn aelodau o Media Trust Cymru dros y misoedd nesaf.”

Dywedodd Remeny Armitage o Precedent Communications, “Mae gan Precedent etifeddiaeth gref o weithio gydag elusennau ac felly rydym yn hynod o falch o fod yn un o aelodau corfforaethol cyntaf Media Trust Cymru. Rydym hefyd yn eithriadol o falch o gael gwahoddiad i ymuno â bwrdd ymgynghorol Media Trust Cymru, ochr yn ochr â chyrff fel BBC Cymru ac S4C. Gobeithio y bydd ein presenoldeb, gydag aelodau eraill, yn helpu Media Trust Cymru i gefnogi elusennau lleol yng Nghymru gyda’r un llwyddiant ag y mae Media Trust wedi ei gael yn Lloegr.”

Dywedodd Matt Appleby Cyfarwyddwr Golley Slater PR, Caerdydd: “Rydym yn falch iawn i ddod yn aelod corfforaethol o Media Trust Cymru. Mae gan Golley Slater draddodiad hir o gefnogi cysylltiadau rhwng elusennau a’r proffesiwn cyfathrebiadau yng Nghymru ac rydym yn falch iawn o gefnogi cynlluniau Media Trist Cymru i ehangu cyrhaeddiad ein gwasanaethau.”


Gorffennaf 2007

Mae Media Trust Cymru yn mynd i chwilio am gyfleoedd yn y cyfryngau i wirfoddolwyr ifanc.


Mae Media Trust Cymru wedi penodi Ruth Parry i arwain astudiaeth newydd

Mae Media Trust Cymru, yn falch o gyhoeddi penodiad yr ymgynghorydd Ruth Parry i gynnal astudiaeth dichonolrwydd yng Nghymru. Mae Media Trust Cymru yn rhan o Media Trust, yr elusen sydd yn dwyn elusennau a’r cyfryngau ynghyd.

Bydd yr astudiaeth a gynhelir gan Ruth Parry ar gyfer Media Trust Cymru yn edrych ar ddichonoldeb gosod pobl ifanc, gwirfoddolwyr a’r rhai sydd yn gweithio mewn elusennau gyda mentoriaid (ifanc) proffesiynol profiadol sydd yn gweithio yn y byd cyfryngau/cyfathrebiadau ac yn y diwydiant creadigol – gallent fod yn bobl camera, recordwyr sain, gohebwyr, arbenigwyr goleuo, cyfarwyddwyr etc.

Mae Ruth wedi gweithio i gwmnïau fel Drake av, Petersens, Grayling, Autism Cymru, BBC ac S4C. Bu’n gweithio fel cyflwynydd/cynhyrchydd gyda’r BBC yng Nghaerdydd am sawl blwyddyn ac agorodd y feithrinfa dydd Cymraeg cyntaf, ‘Si-lwli’ yng Nghaerdydd yn gynnar yn y 90au.

Yn ystod y deufis nesaf bydd Ruth yn gweithio gyda nifer o elusennau ledled Cymru – yn cynnal grwpiau ffocws a chyfweliadau strwythuredig wyneb yn wyneb yn Gymraeg ac yn Saesneg. Bydd yn anfon holiaduron at elusennau a chwmnïau sydd wedi dangos diddordeb mewn ymuno â chynllun a fydd yn darparu myrdd o gyfleoedd i bobl ifanc yng Nghymru. Llwyddwyd i gynnal y prosiect hwn gan Media Trust Cymru trwy garedigrwydd cronfa Comisiwn Russell Cymuned Weithredol a thrwy bartneriaeth gyda Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (WCVA).

Os ydych yn elusen neu yn unigolyn sydd â diddordeb mewn unrhyw ran o’r fenter hon mae croeso i chi gysylltu â Ruth Parry. Dywedodd Ruth, “Ymunwch â ni i’n helpu i wneud i hyn ddigwydd i bobl ifanc Cymru”. Gallwch e-bostio Ruth yn: ruthp@mediatrust.org

Mae Media Trust eisoes wedi sefydlu Bwrdd Ymgynghorol yng Nghymru ac mae’n darparu gwasanaethau cyfathrebiadau i’r sector elusennol yma. Nod Media Trust yw cynyddu ei gynrychiolaeth yng Nghymru er mwyn cyflwyno rhagor o’i wasanaethau i elusennau yng Nghymru ac adeiladu cyfathrebiadau effeithiol yn y trydydd sector.

Dywedodd Helen Beckett, Pennaeth Cyfathrebiadau yn Media Trust “Mae pobl ifanc yn cael eu hysbrydoli gan y cyfryngau a’r diwydiannau creadigol. Maent eisiau eu defnyddio a gweithio ynddynt. Fel rhywun a gafodd ei magu yng Nghaerdydd a’r Barri rwyf yn hynod o optimistaidd ynglŷn â gweithio gyda’r diwydiant cyfryngau llwyddiannus a bywiog yna yng Nghymru.”


dychwelyd i hafan Media Trust Cymru